Lleoliad y cyfarfod:
Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 3
Chwefror 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn drwy gynhadledd fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
1 Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
(0 munud)
Ni chyflwynwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.
4 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
5 Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Clyw fy nghân: Ymchwiliad i'r diwydiant cerddoriaeth fyw
(30 munud)
NDM7575 Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Clyw fy nghân: ymchwiliad i’r diwydiant cerddoriaeth fyw, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2020.
6 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Cefnogaeth i ofal lliniarol yn ystod y pandemig
(30 munud)
NDM7581 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cofnodi 37,403 o farwolaethau yng Nghymru yn 2020.
2. Yn cydnabod effaith y pandemig COVID-19 ar y rhai sy'n darparu gofal diwedd oes a'r rhai sydd â salwch angheuol a'u hanwyliaid, yn enwedig o ystyried cyfyngiadau'r coronafeirws ar ymweliadau ag ysbytai, hosbisau a chartrefi gofal.
3. Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol gofal lliniarol o ansawdd uchel a gwasanaethau cymorth profedigaeth o dan amgylchiadau o'r fath.
4. Yn nodi pryderon Coleg Brenhinol Nyrsys Cymru o ran nyrsys yn bod yn flinedig, o dan straen a bron ac wedi'u gorweithio'n llwyr oherwydd y pandemig a'r pwysau ychwanegol o ddarparu gofal diwedd oes.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) parhau i adolygu'r canllawiau sy'n gysylltiedig ag ymweliadau ag ysbytai, hosbisau a chartrefi gofal, fel bod teuluoedd a gweithredwyr yn gallu galluogi cyswllt diogel a thosturiol yn ystod gofal diwedd oes;
b) sicrhau bod y rhai sy'n nesáu at ddiwedd eu hoes, yn ogystal â'u hanwyliaid, yn gallu cael gafael ar ofal a chymorth emosiynol o ansawdd uchel;
c) cynyddu'n sylweddol y cymorth ariannol ar gyfer gofal lliniarol a gwasanaethau cymorth profedigaeth yn y flwyddyn ariannol nesaf i ddiwallu'r anghenion cynyddol a mwy cymhleth sy'n deillio o'r pandemig;
d) gweithredu cynllun hirdymor i gefnogi nyrsys a staff gofal i ddelio â straen wedi trawma a materion iechyd meddwl a achosir gan y gofyniad cynyddol am ofal lliniarol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
(e) mynd i'r afael ag anghydraddoldebau o ran mynediad at ofal diwedd oes da.
7 Dadl Plaid Cymru – Cyllido'r Llyfrgell Genedlaethol
(30 munud)
NDM7580 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at y ffaith y bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cael ei gorfodi i dorri swyddi a chwtogi'n ddifrifol ar wasanaethau heb fwy o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ar frys y cyllid annigonol a ddyrannwyd i'r Llyfrgell Genedlaethol yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-2022 a darparu setliad ariannu cynaliadwy i'r Llyfrgell Genedlaethol a fydd yn diogelu'r gweithlu presennol ac yn caniatáu i'r llyfrgell ehangu ei gwaith hanfodol ar gyfer y dyfodol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrthi’n cynnal ymgynghoriad a bod Llywodraeth Cymru’n parhau mewn trafodaeth barhaus â nhw i asesu pob opsiwn posibl.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliant 2 a gyflwynwyd i’r cynnig.
Gwelliant 3 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r dystiolaeth awdurdodol a ddarparwyd yn yr adolygiad teilwredig a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru nad yw'r Llyfrgell Genedlaethol yn cael y lefel o gyllid sydd ei hangen arni ar hyn o bryd i ddarparu ei gwasanaethau craidd.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Adolygiad Teilwredig o Lyfrgell Genedlaethol Cymru
8 Cyfnod pleidleisio
9 Dadl Fer
(30 munud)
NDM7577 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Pam nad ydym yn caru ieithoedd rhyngwladol?
Sylwadau ar ddysgu ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru a rôl y prosiect mentora myfyrwyr ieithoedd tramor modern.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 9 Chwefror 2021